Robert Southey

Robert Southey
Ganwyd12 Awst 1774 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1843 Edit this on Wikidata
Keswick Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, hanesydd, cofiannydd, gwleidydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadRobert Southey Edit this on Wikidata
MamMargaret Hill Edit this on Wikidata
PriodEdith Fricker, Caroline Anne Southey Edit this on Wikidata
PlantMargaret Edith Southey, Edith May Southey, Herbert Castle Southey, Emma Southey, Bertha Southey, Katherine Southey, Isabel Southey, Charles Cuthbert Southey Edit this on Wikidata

Bardd o Sais oedd Robert Southey (12 Awst 1774, Bryste21 Mawrth 1843, Llundain), yn perthyn i'r ysgol Rhamantiaeth Seisnig a gyfrifir yn un o "Feirdd y Llynnoedd" gyda William Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge ac eraill. Yn ogystal â bod yn fardd dylanwadol yn ei gyfnod, roedd yn llythyrwr, yn ysgolhaig llên, hanesydd a bywgraffydd a luniodd fywgraffiadau am John Bunyan, John Wesley, William Cowper, Oliver Cromwell, Horatio Nelson ac eraill. Roedd yn medru Portiwgaleg a Sbaeneg hefyd; cyfieithodd sawl gwaith o'r ieithoedd hynny i'r Saesneg ac ysgrifennodd gyfrolau ar hanes Brasil a hanes Rhyfel Crimea. Fel awdur llenyddiaeth plant fe'i cofir am ei fersiwn o Hanes y Tair Arth (rhan o chwedl Goldilocks).

Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol Llundain ar droad y 18g. Daeth yn gyfaill i Iolo Morganwg a derbyniodd lawer o syniadau rhamantus y llenor a ffugiwr hwnnw am y Derwyddon. Roedd yn adnabod Cymry eraill yn y ddinas hefyd, a chafodd ei ysbrydoli i lunio'r gerdd ramantaidd Madoc am hanes Madog ab Owain Gwynedd.

Y dylanwadau mwyaf ar waith Southey fodd bynnag oedd hansesion y Beibl, cerddi mawr Dante, gwaith Milton, ac athroniaeth gyfriniol Swedenborg. Mae ei edmygwyr yn cynnwys Yeats a Hart Crane.

Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1813, yn dilyn marwolaeth Henry James Pye. Fe'i dilynwyd gan William Wordsworth ar ôl ei farwolaeth ei hun.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search